Llŷr Davies
Llŷr Davies
Trwy fy ngwaith rwyf yn ymchwilio ac arbrofi gyda’r berthynas rhwng pobl a’u hamgylchedd, boed hynny gyda phobl eraill, tir neu wrthrychau. Rwyf yn ceisio dargranfod straeon, personoliaethau a chysyniadau o fewn y ffigwr, gwrthrychau a defnyddiau. Ceisiaf wahodd y gynulleidfa i oedi a myfyrio, weithiau gydag elfen o hiwmor, trwy fy ngherfluniau. Nid yw’r gwaith yn cynnig ateb pendant ond agor gofod i feddwl a thrafod.
Through my work I investigate and experiment with the relationship between people and their environment, whether that be with other people, land or objects. I try to find stories, personalities and concepts within the figure, objects and materials. I try to invite the audience to pause and reflect, sometimes with an element of humor, through my sculptures. The work does not offer a definitive answer but opens a space for thinking and discussion.
GWLÂN, GWLÂN,.................
Mae amaethyddiaeth, yr amgylchedd a newid hinsawdd yn bynciau llosg yng Nghymru heddiw. Maent yn aml yn plethu i'w gilydd ond weithiau hefyd yn ymddangos ar ochrau gwahanol y ddadl.
Mae safbwyntiau a pholisïau’r Llywodraeth ar amaethyddiaeth, olyniaeth ac etifeddiaeth, a’r effaith bosibl ar ddyfodol cefn gwlad Cymru, wedi pigo meddwl yr artist dro ar ôl tro. O fyfyrio ar y tensiynau a’r cysylltiadau hyn y daeth yr awydd i weithio gyda gwlân fel cyfrwng creadigol.
Mae gwlân yn ddeunydd sy’n llawn posibiliadau. Mae’n arloesol, yn greadigol, yn ymarferol ac yn hynod gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae hefyd yn ddeunydd hynafol a thraddodiadol sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn hanes Cymru. Mae’n ein hatgoffa o’r carthenni traddodiadol a’r cynhesrwydd y bu’n ei gynnig i’n cyndeidiau dros ganrifoedd. Mae cysylltiad dwfn rhwng y deunydd hwn a bywyd pobl.
Trwy’r gwaith hwn mae gwlân yn dod yn symbol o dreftadaeth a gwreiddiau, o straeon a chrefft sy’n cael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae hefyd yn dathlu harddwch naturiol y deunydd ei hun tra’n awgrymu sut y gall amaethyddiaeth a’r amgylchedd gydfodoli a gweithio gyda’i gilydd i greu Cymru fwy cynaliadwy a gwyrddach.
Mae ffurf y gwaith yn tynnu ar ddelwedd cwmwl o wlân, gyda choesau’n ymddangos fel pe baent yn ei gario.
Agriculture, the environment and climate change are hot topics in Wales today. They often intertwine but sometimes also appear on different sides of the debate.
The Government's views and policies on agriculture, succession and inheritance, and the potential impact on the future of the Welsh countryside, have piqued the artist's mind time and time again. The desire to work with wool as a creative medium came from reflecting on these tensions and connections.
Wool is a material full of possibilities. It is innovative, creative, practical and extremely friendly to the environment. It is also an ancient and traditional material that is deeply rooted in Welsh history. It reminds us of the traditional latrines and the warmth it offered our ancestors over centuries. There is a deep connection between this material and people's lives.
Through this work wool becomes a symbol of heritage and roots, of stories and craft that are passed from generation to generation. It also celebrates the natural beauty of the material itself while suggesting how agriculture and the environment can coexist and work together to create a more sustainable and greener Wales.
The form of the work draws on the image of a cloud of wool, with legs appearing as if they were carrying it.